Presgripsiynau ailadrodd
  Gallwch wneud cais am bresgripsiynau ailadrodd drwy lenwi a chyflwyno ffurflen ar lein. Yn gyntaf bydd rhaid i chi ddarllen a derbyn ein telerau ac amodau. Cliciwch ar y pennawd uchod.

Sut i gofrestru

Mae gennym ni restr agored ac rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer cofrestru gan gleifion sy’n byw neu’n symud i ardal y feddygfa.

Gallwch gofrestru drwy gwblhau cerdyn meddygol GIG a dod a'r cerdyn  gyda chi, neu drwy gwblhau ffurflen ar-lein, neu gasglu ffurflen o'r dderbynfa.  Os ydych chi eisiau cymorth i lenwi'r ffurflen, rhowch wybod i ni fel bod aelod o staff yn gallu eich helpu chi.

Rydym yn argymell bod y nyrs yn gwirio iechyd unrhyw glaf newydd.

yn ôl i’r brig

Apwyntiadau

Rydym yn rhedeg ein meddygfa drwy ddefnyddio system apwyntiad yn unig.  Gellir gwneud apwyntiad drwy ffonio'r feddygfa ar y diwrnod yr hoffech chi weld rhywun.  Mae'r nifir of apwyntiad o flaen llaw yn gyfyngedig ac yn dibynnu os oes rhai ar gael.

Os ydych chi'n rhy wael i ddod i'r feddyfga ac eisiau ymweliad cartref, ffoniwch y feddygfa cyn 10 y.b.  Mae ymweliadau cartref yn cymryd mwy o amser i'r meddyg nag ymgynghoriadau yn y feddygfa, felly os ydych chi'n gallu symud dewch i'r feddygfa i weld y meddyg.

yn ôl i’r brig

Clinigau

Clinig Disgrifiad Amser
Cynllunio Teulu

Mae cyngor am atal cenhedlu ar gael gan y meddyg neu'r nyrs. 

Oriau arferol y feddygfa
Gofal o flaen Gendigaeth Archwiliad rheolaidd gan eich bydwraig gymwys. Dydd Mawrth - 1y.p - 3y.p
Y Fam a'i Babi Clinig ar gyfer cyngor ac i bwyso'r babi.  Brechiadau ar gyfer plant hyd at 5 blwydd oed.
Dydd Mawrth 10.00y.p - 12.20y.p a 2.00y.p - 3.00y.p
Brechiadau

Mae brechiadau rheolaidd a brechiadua ar gyfer teithio ar gyfer pob oedran ar gael drwy wneud apwyntiad gydag un o'n nyrsys yn ystod oriaua arferol y feddygfa.

Rydym yn rhedeg clinig brehciadau ffliw nes ymlaen ym mis hydref.

Gofynnwch yn y dderbynfa am ragor o wybodaeth.

Oriau agor arferol
Asthma Archwiliad rheolaidd a chyngor gan nyrsys y feddygfa ar ffordd o fyw, technegau mewnanadlydd a meddyginiaeth Oriau agor arferol
Ffisiotherapi Trefnir apwyntiadau ar gyfer ffisiotherpi gan Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn, Bae Colwyn, fydd yn cysylltu a chi yn uniongyrchol. Pnawn dydd Llun a dydd Mercher
Stopio Ysmygu Cymorth i stopio ysmygu siaradwch a'r derbynnydd i wneud apwyntiad. Boreau dydd Mawrth
Clinig  Gofal Iechyd Meddwl
Mae gennym ni ymarferwr sy'n ymweld a'r feddygfa yn wythonosol.  Mae posib gwneud apwyntiad wedi ymgynghoriad gan y meddyg. Boreau dydd Iau

yn ôl i’r brig

Presgripsiynau Parhaus

  1. Gallwch archebu eich presgripsiwn yn y dderbynfa, drwy ffacs, drwy ei bostio i'r feddygfa neu ar-lein.
  2. Ticiwch eich eitemau yn ur adran ar ochr dde'r ffurflen presgripsiwn blaenorol.
  3. Bydd eich presgripsiwn yn barod i'w gasglu o leiaf 2 ddiwrnod gwaith wedi i chi ei archebu.

Ni dderbynir archebion am bresgripsiwn parhaus dros y ffon.

Rydym yn eiddgar i sicrhau bod cleifion a phroblemau meddygol parhaus yn cael eu monitro'n rheolaidd.  Os yw dyddiad ar gyfer eich adolygiad gan feddyg neu nyrs wedi mynd heibio bydd gofyn i chi wneud apwyntiad.

Mae'n bolisi gan Fwrdd Iechyd Lleol Conwy mai un mis ar y tro y byddwn yn dyrannu presgripsiynau.

yn ôl i’r brig

Tystysgrifau salwch

Dim ond pan na fyddwch chi'n gallu gweithio yr ydych chi angen llythyr gan y meddyg, ac os ydych chi'n sal am fwy na saith diwrnod.  Bydd eich cyflogwr yn darparu ffurflen hunan-dystysgrif SC2 ar eich cyfer dros gyfnodau byr o salwch.

yn ôl i’r brig

Canlyniadau prawf

Gan fod ein llinellau ffon yn brysur iawn drwy'r dydd, rydym yn gofyn i chi ffonio'r nyrs ar gyfer canlyniadau prawf (e.e. gwaed, wrin, pelydr-x) rhwng 1.00 a 2.00 yd ddyddiol.

Er mwyn sicrhau cyfrinachedd, i'r claf yn unig y byddwn yn rhyddhau canlyniadau prawf, oni bai ein bod wedi cytuno ar drefniadau eraill yn ysgrifenedig.

yn ôl i’r brig

Gwasanaethau di-GIG

Tydi'r GIG ddim yn talu am rai o'r gwasanaethau a ddarparwn.  Mae'r rhain yn cynnwys nodiadau salwch, ffurflenni yswiriant, ffurflenni diddymu gwyliau, adroddiadau meddygol, tystysgrif ffitrwydd ar gyfer teithio, presgropsiynau preifat, arwyddo pasbort a rhai gwasanaethau brechiadau.  yn y feddygfa mae rhestr o'n ffioedd ar gyfer y gwasanaethau yma, sy'n cydfynd a'r canllawiau cenedlaethol wedi eu cymeradwyo gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA).  

yn ôl i’r brig